SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 80

Mae dyn yn cael ei arestio a'i gadw mewn gorsaf heddlu ar amheuaeth o ymosodiad cyffredin sy'n drosedd ddiannod yn unig (summary only offence). Mae'r dyn yn ddigartref ac nid oes unrhyw incwm ganddo.

Nid yw'r dyn yn cael ei gynrychioli'n gyfreithiol yn ystod ei gyfweliad dan rybudd (under caution), lle mae'n gwadu'r drosedd. Ar ôl y cyfweliad dywedir wrth y dyn y bydd yn cael ei gyhuddo o (charged with) y drosedd. Mae'r dyn yn dweud ei fod eisiau cyngor cyfreithiol nawr gan nad yw am i'r heddlu ei gyhuddo.

A oes gan y dyn yr hawl i gael cyngor cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus yng ngorsaf yr heddlu?

A. Nac oes, oherwydd bod y drosedd y mae wedi cael ei arestio yn ei chylch yn drosedd ddiannod yn unig.

B. Oes, oherwydd nid oes ganddo gyfeiriad yng Nghymru na Lloegr.

C. Oes, oherwydd iddo gael ei arestio ac mae yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu.

D. Oes, oherwydd ei fod yn bodloni'r prawf modd.

E. Nac oes, oherwydd bod y cyfweliad dan rybudd eisoes wedi digwydd.


C - Oes, oherwydd iddo gael ei arestio ac mae yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?