SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 81

Yn ystod y 24 mlynedd diwethaf mae dyn wedi rhedeg busnes mewn safle ar gyrion pentref. Cafodd y dyn ganiatâd cynllunio ar gyfer y defnydd busnes hwn pan ddechreuodd ei fusnes. Mae'r unig dŷ sydd yng nghyffiniau busnes y dyn dan berchnogaeth a meddiant menyw ers 22 mlynedd.

Mae'r sŵn o fusnes y dyn bob amser wedi bod yn sylweddol ond wnaeth y fenyw ddim cwyno am fod ei thad yn ffrindiau mawr gyda'r dyn. Bu farw tad y fenyw dri mis yn ôl ac mae hi bellach wedi dwyn achos mewn niwsans preifat yn erbyn y dyn. Derbynnir bod y lefelau sŵn, nad ydynt wedi newid ers i'r busnes ddechrau, yn niwsans cyfreithadwy (actionable nuisance) oni bai bod y dyn yn gallu codi amddiffyniad llwyddiannus.

A all y dyn ddefnyddio amddiffyniad presgripsiwn (defence of prescription) yn llwyddiannus?

A. Na all, oherwydd dim ond pan gwynodd y fenyw am y sŵn y daeth yr hawliad yn gyfreithadwy.

B. Gall, oherwydd bod y dyn wedi rhedeg ei fusnes ers dros 20 mlynedd heb gŵyn.

C. Na all, oherwydd nid yw'r amddiffyniad yn berthnasol mewn niwsans preifat.

D. Gall, oherwydd bod y dyn wedi cael caniatâd cynllunio.

E. Na all, oherwydd daeth y niwsans yn berthnasol i'r fenyw wedi i'r dyn ddechrau rhedeg ei fusnes.


B - Gall, oherwydd bod y dyn wedi rhedeg ei fusnes ers dros 20 mlynedd heb gŵyn.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?