SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 82

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran hawlydd yn ei hawliad yn erbyn cwmni lleol o gyfrifwyr ('y Diffynnydd'). Honiad yr hawlydd yw iddi weithredu yn sgil cyngor esgeulus a ddarparodd y Diffynnydd. Dilynwyd yr holl weithdrefnau cyn gweithredu (pre-action) priodol ac mae achos wedi'i gychwyn a'i gyflwyno (issued and served).

Mae'r cyfreithiwr yn derbyn e-bost gan y cwmni o gyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran y Diffynnydd, sy'n egluro bod y cyfreithiwr a oedd wedi bod yn rhoi sylw i'r mater wedi bod yn absennol o'r swyddfa oherwydd salwch. Mae'r cwmni wedi ffeilio cydnabyddiad cyflwyno gyda'r llys ar ran y Diffynnydd ond mae angen ymestyn yr amser er mwyn paratoi a ffeilio amddiffyniad ei gleient.

Mae cyfreithiwr yr hawlydd yn cytuno i estyniad o saith diwrnod ar gyfer ffeilio'r amddiffyniad a rhoddir gwybod i'r llys yn ysgrifenedig.

Ar y dyddiad y disgwylir i gyfnod yr estyniad o saith diwrnod y cytunwyd arno ddod i ben, mae cyfreithiwr y Diffynnydd yn gofyn am estyniad pellach i'r amser ar gyfer ffeilio'r amddiffyniad.

Beth yw'r estyniad pellach, os o gwbl, y gall cyfreithiwr yr hawlydd gytuno iddo heb ganiatâd y llys?

A. Estyniad o 7 diwrnod arall.

B. Estyniad o 14 diwrnod arall.

C. Estyniad o 21 niwrnod arall.

D. Estyniad o 28 niwrnod arall.

E. Ni chaniateir estyniad pellach.


C - Estyniad o 21 niwrnod arall.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?