SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 83

Mae gan gwmni cyfyngedig preifat erthyglau enghreifftiol heb eu diwygio fel y nodir yn Atodlen 1 i Reoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008. Mae'r cwmni wedi cyhoeddi cyfrannau cyffredin yn unig ac nid oes ganddo gytundeb cyfranddalwyr. Mae ei gyfres ddiweddaraf o gyfrifon yn dangos na wnaeth y cwmni elw na cholled yn ystod y cyfnod cyfrifyddu diweddaraf, er bod ganddo elw dosbarthadwy (distributable profits) o £50,000 a gariwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu blaenorol. Mae'r cyfranddalwyr am i'r cwmni ddatgan difidend allan o'r elw hwn, ond mae'r cyfarwyddwyr yn bwriadu cadw'r elw o fewn y cwmni i ariannu ehangiad masnach y cwmni.

A all y cyfranddalwyr orfodi'r cyfarwyddwyr i argymell difidend?

A. Gallant, oherwydd bod gan y cyfarwyddwyr ddyletswydd i weithredu er budd gorau'r cyfranddalwyr.

B. Gallant, oherwydd bod gan y cyfranddalwyr y pŵer i fynnu ar dalu difidend trwy benderfyniad cyffredin (ordinary resolution).

C. Gallant, oherwydd bod gan y cyfranddalwyr yr hawl i dderbyn difidend os oes gan y cwmni elw dosbarthadwy.

D. Na allant, oherwydd dim ond y cyfarwyddwyr sydd â'r pŵer i argymell taliad difidend.

E. Na allant, oherwydd gall y cyfarwyddwyr argymell difidend allan o elw o'r cyfnod cyfrifyddu diweddaraf yn unig.


D - Na allant, oherwydd dim ond y cyfarwyddwyr sydd â'r pŵer i argymell taliad difidend.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?