SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 84

Mae unig fasnachwr, sy'n gweithredu fel masnachwr adeiladwyr (builders’ merchant), yn ymrwymo i gontract gyda chwmni i logi tryc fforch godi. Mae telerau'r contract yn ysgrifenedig a rhoddir cyfle i'r unig fasnachwr ddarllen y contract yn llawn cyn iddo ei lofnodi.

Nid yw'r unig fasnachwr yn darllen y contract ond mae'n ei lofnodi. Mae'r cymal llofnodi yn darparu mewn priflythrennau bras:

"RWYF/RYDYM WEDI DARLLEN Y CONTRACT YN LLAWN AC YN DEALL EI DELERAU."

Mae'r contract yn nodi bod y tryc fforch godi yn cael ei logi am gyfnod penodol o dair blynedd a bod ffi yn daladwy i'r cwmni os yw'r unig fasnachwr yn dymuno ei derfynu'n gynnar ('y Cymal').

Mae'r unig fasnachwr yn ceisio dychwelyd y tryc fforch godi chwe mis ar ôl llofnodi'r contract gan iddo ddod o hyd i ddewis arall sy'n rhatach. Mae'r cwmni'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r unig fasnachwr dalu'r ffi a bennir am derfynu'n gynnar.

Yna, mae'r unig fasnachwr yn darllen y contract. Mae'n honni nad oedd Cymal wedi ei ymgorffori yn y contract oherwydd nid oedd wedi ei ddarllen ac nid oedd wedi delio â'r cwmni o'r blaen.

A oedd y Cymal wedi'i ymgorffori yn y contract?

A. Oedd, oherwydd bod yr unig fasnachwr wedi llofnodi'r contract.

B. Nac oedd, oherwydd na thynnwyd y Cymal at sylw'r unig fasnachwr yn benodol cyn iddo lofnodi.

C. Nac oedd, oherwydd nid oedd unrhyw ddelio blaenorol (previous course of action) wedi bod rhwng yr unig fasnachwr a'r cwmni.

D. Oedd, oherwydd bod yr unig fasnachwr yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel busnes nid fel defnyddiwr.

E. Nac oedd, oherwydd ni ddarllenodd yr unig fasnachwr y Cymal tan rai misoedd ar ôl llofnodi'r contract.


A - Oedd, oherwydd bod yr unig fasnachwr wedi llofnodi'r contract.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?