SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 85

Mae gan awdurdod lleol bŵer statudol i brynu tir yn orfodol at ddibenion adeiladu tai preswyl a ffyrdd mynediad i'r tai. Mae'r awdurdod lleol yn cymeradwyo cynllun datblygu ac yn bwriadu caffael y tir y mae ei angen ar gyfer y cynllun datblygu drwy brynu gorfodol. Mae'r cynllun datblygu yn cynnwys stad o dai newydd a chyfadeilad sinema a siopa mawr, gyda ffordd ddeuol yn mynd drwy'r stad o dai newydd er mwyn darparu'r mynediad angenrheidiol.

Mae preswylydd lleol, y byddai ei dir yn cael ei brynu'n orfodol dan y cynllun datblygu, yn dymuno dwyn achos dros adolygiad barnwrol (bring judicial review proceedings) yn erbyn yr awdurdod lleol i herio'r cynllun datblygu.

Pa un o'r canlynol sy'n egluro orau a yw'r preswylydd lleol yn gallu dwyn achos dros adolygiad barnwrol?

A. Gall wneud hyn oherwydd bod y ffeithiau'n awgrymu y gallai'r awdurdod lleol fod wedi gweithredu'n anghyfreithlon.

B. Ni all wneud hyn oherwydd nid yw penderfyniadau cynllunio yn ddarostyngedig i achos dros adolygiad barnwrol.

C. Gall wneud hyn oherwydd bod y ffeithiau'n awgrymu y gallai gweithredoedd yr awdurdod lleol fod yn annheg yn weithdrefnol.

D. Ni all wneud hyn oherwydd ni all preswylydd unigol ddwyn achos.

E. Ni all wneud hyn oherwydd bod yr awdurdod lleol yn gweithredu o fewn ei bwerau statudol.


A - Gall wneud hyn oherwydd bod y ffeithiau'n awgrymu y gallai'r awdurdod lleol fod wedi gweithredu'n anghyfreithlon.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?