SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 69

Mae modurwr yn achosi gwrthdrawiad drwy esgeuluster â char arall sy'n cael ei yrru gan fenyw. O ganlyniad i'r gwrthdrawiad esgeulus, mae'r fenyw'n dioddef nifer o golledion.

Mae hi'n dioddef anafiadau difrifol i'w llaw a'i braich y bydd angen ffisiotherapi helaeth ar eu cyfer. Mae'r fenyw'n bwriadu talu am ffisiotherapi preifat gan fod y rhestr aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fisoedd lawer. Mae difrod difrifol i'w char ac mae angen gwaith trwsio sylweddol arno. Roedd ei gliniadur ar sedd teithiwr (passenger seat) y car ac mae wedi'i ddifrodi i'r graddau nad oes modd ei drwsio. Mae'r fenyw'n defnyddio'r gliniadur at ddibenion busnes. Cafodd modrwy ddyweddïo'r fenyw sy'n werth £10,000 ei dinistrio yn y ddamwain wrth i'r diemwntau ynddi chwalu gyda grym y gwrthdrawiad.

Mae'r fenyw yn dwyn hawliad mewn esgeuluster am yr holl golledion hyn. Mae'r gyrrwr yn derbyn cyfrifoldeb am y gwrthdrawiad ond yn gwadu cwantwm.

Yn ogystal ag atebolrwydd am yr anaf personol a'r difrod i'r car, pa golledion eraill y mae'r modurwr yn atebol amdanynt?

A. Triniaeth ffisiotherapi breifat y fenyw, ei gliniadur a'i modrwy ddyweddïo.

B. Triniaeth ffisiotherapi breifat y fenyw yn unig.

C. Modrwy ddyweddïo a gliniadur y fenyw yn unig.

D. Gliniadur y fenyw yn unig.

E. Modrwy ddyweddïo'r fenyw a thriniaeth ffisiotherapi breifat yn unig.


A - Triniaeth ffisiotherapi breifat y fenyw, ei gliniadur a'i modrwy ddyweddïo.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?