SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 70

Mae menyw yn gweithio i elusen leol ar gyfer pobl anabl. Prif swyddogaeth yr elusen yw trefnu cludiant i bobl anabl yn y gymuned a'r cyffiniau. Mae'r elusen yn defnyddio un cwmni penodol o yrwyr tacsis i gyflawni'r swyddogaeth hon.

Mae'r fenyw yn darllen mewn papur newydd am ddeddfwriaeth ddiweddar sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i yrwyr tacsis helpu pobl anabl wrth ddefnyddio eu tacsis. Mae'r fenyw yn cael gafael ar y ddeddfwriaeth ac yn canfod fel a ganlyn:

Deddf Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Pobl Anabl) 2022

2022 PENNOD 29

Deddf sy'n darparu ar gyfer cludo pobl anabl mewn tacsis a cherbydau hurio preifat. [28 Ebrill 2022]

Mae'r fenyw eisiau gwybod beth yw arwyddocâd y dyddiad 28 Ebrill 2022 ac mae'n ffonio cyfreithiwr yr elusen am gyngor cyfreithiol.

Beth dylai'r cyfreithiwr ei gynghori?

A. Dyma'r dyddiad y cyflwynwyd drafft diweddaraf y statud i Dŷ'r Cyffredin.

B. Dyma'r dyddiad dros dro a bennwyd i’r statud ddod i rym.

C. Dyma'r dyddiad y cafodd y statud Gydsyniad Brenhinol (Royal Assent).

D. Dyma ddyddiad cychwyn y statud.

E. Dyma'r dyddiad y pasiodd y statud ei Chyfnod Pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin.


C - Dyma'r dyddiad y cafodd y statud Gydsyniad Brenhinol (Royal Assent).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?