SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 28

Mae gweithiwr iau mewn gwersyll haf i bobl ifanc wedi’i gael yn euog o ymosod ar un o’r gwersyllwyr. Mae’r dioddefwr yn dwyn achos yn erbyn trefnwyr y gwersyll am iawndal (damages) am drawma seicolegol ar y sail bod y gwersyll yn atebol yn ddirprwyol (vicariously liable) am weithredoedd y gweithiwr.

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau a fydd atebolrwydd dirprwyol yn berthnasol?

A. Bydd atebolrwydd dirprwyol yn berthnasol os oes cysylltiad digon agos rhwng gweithred y gweithiwr a’i gyflogaeth.

B. Ni all atebolrwydd dirprwyol fod yn berthnasol i ymddygiad troseddol.

C. Dim ond os digwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau gwaith y bydd atebolrwydd dirprwyol yn berthnasol.

D. I uwch weithwyr yn unig y gall atebolrwydd dirprwyol fod yn berthnasol.

E. Ni fydd atebolrwydd dirprwyol yn berthnasol gan na chafodd y cyflogwr unrhyw fuddiant.


A - Bydd atebolrwydd dirprwyol yn berthnasol os oes cysylltiad digon agos rhwng gweithred y gweithiwr a’i gyflogaeth.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?