SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 18

Honnir bod gwladolyn o’r tu allan i’r DU (non-UK national) ac sy’n byw yn y DU wedi cyflawni trosedd ddifrifol yn ei wlad enedigol. Nid yw ei wlad enedigol yn un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (‘y Confensiwn’).

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gorchymyn i allgludo (deport) y dyn i’w wlad enedigol. Fodd bynnag, mae’r dyn yn honni y bydd tystiolaeth yn cael ei defnyddio yn ei erbyn mewn perthynas â’r drosedd honedig, a’r dystiolaeth honno wedi’i chael drwy artaith (torture). Mae’r dyn yn apelio o dan y Confensiwn yn erbyn y gorchymyn allgludo yn yr Uchel Lys, ac mae’r Uchel Lys yn derbyn honiad y dyn.

Pa un o’r canlynol sy’n egluro orau p’un a fyddai’r Uchel Lys yn cefnogi (uphold) y gorchymyn allgludo?

A. Ni fyddai’n cefnogi’r gorchymyn gan fod y Confensiwn yn nodi bod yn rhaid i aelod-wledydd sicrhau hawliau’r Confensiwn i bawb o fewn eu hawdurdodaeth.

B. Ni fyddai’n cefnogi’r gorchymyn gan fod yn rhaid i Lys Hawliau Dynol Ewrop ystyried rhinweddau penderfyniadau allgludo sy’n ymwneud â hawliau dynol gwladolion o wledydd nad ydynt yn un o’r llofnodwyr.

C. Byddai’n cefnogi’r gorchymyn gan nad yw llywodraeth y DU yn gyfrifol am y ffordd y mae gwladwriaeth sofran (sovereign) arall yn cael tystiolaeth i’w defnyddio mewn treialon troseddol.

D. Byddai’n cefnogi’r gorchymyn gan nad yw gwladolion o’r tu allan i’r DU yn elwa ar amddiffyniad hawliau dynol y DU.

E. Byddai’n cefnogi’r gorchymyn oherwydd honnir bod y dyn wedi cyflawni trosedd ddifrifol ac nid amddiffyn troseddwyr yw bwriad y Confensiwn.


A - Ni fyddai’n cefnogi’r gorchymyn gan fod y Confensiwn yn nodi bod yn rhaid i aelod-wledydd sicrhau hawliau’r Confensiwn i bawb o fewn eu hawdurdodaeth.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?