SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 68

Mae adeiladwr hunangyflogedig sy'n dymuno prynu nwyddau gan gwmni cyflenwadau adeiladu yn cysylltu â chyfreithiwr i gael cyngor am y contract ysgrifenedig un dudalen y mae'r cwmni wedi'i anfon ato. Mae tu cefn y contract yn datgan telerau busnes ysgrifenedig safonol y cwmni. Gofynnwyd i'r adeiladwr lofnodi, dyddio a dychwelyd y contract i'r cwmni os yw'n dymuno ei ddefnyddio i gyflenwi nwyddau. Nid yw'r cwmni wedi cyfathrebu â'r adeiladwr mewn unrhyw ffordd arall.

Mae'r cyfreithiwr yn darllen y contract, gan gynnwys y telerau a geir ar y cefn. Mae'n datgan yn gywir bod y telerau wedi'u hymgorffori ond mae'n nodi bod un o'r telerau busnes ysgrifenedig safonol yn ceisio eithrio math o atebolrwydd na ellir ei eithrio dan unrhyw amgylchiadau eraill.

Pa un o'r telerau canlynol y mae'r cyfreithiwr yn cyfeirio ato?

A. Eithrio atebolrwydd am gamliwiad (misrepresentation) a wnaed gan y cwmni cyn yr ymrwymwyd i'r contract.

B. Eithrio atebolrwydd am dorri'r teler ymhlyg (implied term) statudol y bydd y nwyddau'n addas at ddiben penodol.

C. Eithrio atebolrwydd am dorri'r teler ymhlyg (implied term) statudol bod gan y gwerthwr deitl i'r nwyddau adeg y gwerthiant.

D. Eithrio atebolrwydd am dorri'r teler ymhlyg (implied term) statudol y bydd y nwyddau a gyflenwir o ansawdd boddhaol.

E. Eithrio atebolrwydd am dorri'r teler ymhlyg (implied term) statudol y bydd y nwyddau a werthir trwy ddisgrifiad yn cyd-fynd â'r disgrifiad hwnnw.


C - Eithrio atebolrwydd am dorri'r teler ymhlyg (implied term) statudol bod gan y gwerthwr deitl i'r nwyddau adeg y gwerthiant.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?