SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 12

Mae tri phartner gan bartneriaeth masnachu gyffredin sef: yr uwch bartner, y partner rheoli, a’r isbartner. Mae’r tri phartner yn rhannu elw incwm yn gyfartal ac elw cyfalaf yn unol â’u cyfraniadau cyfalaf fel a ganlyn:

Uwch bartner: 50%

Partner rheoli: 30%

Isbartner: 20%

Bum mlynedd yn ôl, prynodd y cwmni adeilad swyddfa. Mae’r adeilad newydd gael ei werthu am elw, gan greu enillion trethadwy.

Pwy fydd yn agored i dalu treth ar yr enillion a grëwyd yn y gwerthiant?

A. Bydd pob partner yn agored i dalu Treth Enillion Cyfalaf (Capital Gains Tax) ar draean (one third) o’r enillion ac ni fydd gan y cwmni unrhyw atebolrwydd (liability).

B. Bydd y cwmni yn agored i dalu Treth Gorfforaeth (Corporation Tax) ar yr enillion i gyd ac ni fydd gan y partneriaid unrhyw atebolrwydd (liability).

C. Bydd pob partner yn agored i dalu Treth Incwm ar draean (one third) o’r enillion ac ni fydd gan y cwmni unrhyw atebolrwydd (liability).

D. Bydd yr uwch bartner yn agored i dalu Treth Enillion Cyfalaf (Capital Gains Tax) ar 50% o’r enillion, y partner rheoli ar 30% o’r enillion a’r isbartner ar 20% o’r enillion.

E. Bydd yr uwch bartner yn agored i dalu Treth Incwm ar 50% o’r enillion, y partner rheoli ar 30% o’r enillion a’r isbartner ar 20% o’r enillion.


D - Bydd yr uwch bartner yn agored i dalu Treth Enillion Cyfalaf (Capital Gains Tax) ar 50% o’r enillion, y partner rheoli ar 30% o’r enillion a’r isbartner ar 20% o’r enillion.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?