SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 1

Roedd pensaer wedi derbyn taflen a oedd yn hysbysebu’r pecynnau dylunio gwefannau roedd cwmni dylunio gwefannau’n eu cynnig. Ar gefn y daflen roedd copi o delerau safonol y cwmni dylunio gwefannau a oedd yn cynnwys cymal cyfyngu (limitation clause).

Ysgrifennodd y pensaer lythyr at y cwmni dylunio gwefannau yn gofyn iddynt ddylunio ei wefan ef ac atododd gopi o’i delerau ac amodau safonol yntau gyda’i lythyr, ac nid oedd y rhain yn cynnwys cymal cyfyngu. Rhoddodd y cwmni dylunio gwefannau ddyfynbris (quotation) o £2,500 i’r pensaer.

Llofnododd y pensaer y bonyn ateb ar y llythyr (tear-off slip) a’i anfon yn ôl at y cwmni dylunio gwefannau; roedd y bonyn yn datgan ei fod yn derbyn y dyfynbris yn unol â thelerau ac amodau safonol y cwmni dylunio gwefannau.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o’r sefyllfa gyfreithiol?

A. Roedd y telerau ar y daflen yn cyfrif fel cynnig yr oedd y pensaer wedi’i dderbyn drwy ofyn am ddyfynbris.

B. Roedd y dyfynbris yn cyfrif fel cynnig yr oedd y pensaer wedi’i dderbyn yn unol â thelerau ac amodau safonol y cwmni dylunio gwefannau.

C. Roedd y dyfynbris yn cyfrif fel cynnig yr oedd y pensaer wedi’i dderbyn yn unol â thelerau ac amodau safonol y pensaer.

D. Roedd y llythyr gan y pensaer at y cwmni dylunio gwefannau yn cyfrif fel cynnig yr oedd y cwmni dylunio gwefannau wedi’i dderbyn drwy anfon dyfynbris.

E. Roedd y llythyr gan y pensaer at y cwmni dylunio gwefannau yn cyfrif fel gwrthgynnig (counter offer) yr oedd y cwmni dylunio gwefannau wedi’i dderbyn drwy anfon dyfynbris.


B - Roedd y dyfynbris yn cyfrif fel cynnig yr oedd y pensaer wedi’i dderbyn yn unol â thelerau ac amodau safonol y cwmni dylunio gwefannau.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?