SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 41

Roedd dyn a menyw, nad oedd wedi cwrdd â’i gilydd erioed o’r blaen, mewn pwll nofio. Roedd y dyn yn cael gwers gan hyfforddwr cymwysedig (qualified) ond oherwydd esgeuluster (negligence) yr hyfforddwr aeth y dyn i drafferthion ym mhen dwfn y pwll a boddi. Gwelodd y fenyw’r holl beth, a datblygodd niwrosis trawmatig o ganlyniad.

A oes modd i’r fenyw adfer iawndal (damages) yn erbyn yr hyfforddwr am y niwrosis trawmatig?

A. Oes, gan fod yr hyfforddwr wedi torri’r ddyletswydd gofal a oedd ganddo tuag at y dyn, ac mae ei esgeuluster wedi achosi colled i’r fenyw.

B. Oes, gan fod yr hyfforddwr wedi torri’r ddyletswydd gofal a oedd ganddo tuag at y fenyw, ac mae ei esgeuluster wedi achosi colled iddi.

C. Oes, gan fod y fenyw’n dioddef o gyflwr sydd wedi cael ei gydnabod yn feddygol.

D. Nac oes, oherwydd nid oedd gan yr hyfforddwr ddyletswydd gofal tuag at y fenyw.

E. Nac oes, gan fod colled y fenyw yn rhy bellennig (remote).


D - Nac oes, oherwydd nid oedd gan yr hyfforddwr ddyletswydd gofal tuag at y fenyw.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?