SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 42

Mae cwmni cyfyngedig cyhoeddus (PLC) mawr yn lesio peiriant gwerthu (vending machine) i ysgol bentref fach. Nid yw’r ysgol wedi talu swm o £300 sy’n ddyledus o dan gytundeb y les ar gyfer y peiriant. Mae’r PLC wedi cychwyn hawliad yn erbyn yr ysgol yn y Llys Sirol.

Mae’r ysgol yn amddiffyn yr hawliad ar y sail nad yw symiau’n ddyledus gan nad yw’r peiriant gwerthu’n gweithio mwyach. Mae’r PLC wedi cyfarwyddo ei gyfreithiwr i lunio rhestr o ddogfennau sy’n cynnwys 267 o dudalennau o negeseuon e-bost ac i geisio tystiolaeth arbenigol ar beiriannau gwerthu gan ddau arbenigwr gwahanol.

A yw’r cyfarwyddiadau hyn yn debygol o fod yn gyson â phrif amcan (overriding objective) y Rheolau Trefniadaeth Sifil (Civil Procedure Rules)?

A. Nac ydyn, gan fod y prif amcan yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r partïon helpu’r llys i ddelio ag achosion mewn modd cyfiawn ac am gost gymesur (proportionate).

B. Nac ydyn, gan fod y prif amcan yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r partïon helpu’r llys i ddelio ag achosion yn gyflym.

C. Ydyn, gan fod y prif amcan yn berthnasol i’r llysoedd yn unig, ac nid i’r partïon.

D. Ydyn, gan fod y prif amcan yn mynnu cymesuredd (proportionality) dim ond o ran rhinwedd gymharol (relative merit) yr hawliad, nid o ran gwerth cymharol yr hawliad.

E. Ydyn, gan fod y prif amcan yn berthnasol i ymddygiad cyn-gweithredu (pre-action) yn unig.


A - Nac ydyn, gan fod y prif amcan yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r partïon helpu’r llys i ddelio ag achosion mewn modd cyfiawn ac am gost gymesur (proportionate).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?