SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 43

Mae dyledwr i fod i dalu dyled o £5,000 yn ôl i gredydwr ansicredig (unsecured) heddiw. Mae’r dyledwr yn dweud wrth y credydwr mai dim ond swm o £4,000 y gall ei ad-dalu, ac mae’n gofyn i’r credydwr gytuno mai hwn yw’r setliad llawn a therfynol ar gyfer y swm cyfan. Gan ei fod e’n poeni bod y dyledwr, sydd â chredydwyr ansicredig eraill hefyd, ar fin cael ei wneud yn fethdalwr (bankrupt), mae’r credydwr yn cytuno.

A oes modd i’r credydwr orfodi’r dyledwr i dalu’r £1,000 sy’n weddill?

A. Oes, gan fod y cytundeb i dderbyn llai na’r swm llawn wedi’i wneud o dan orfodaeth (under duress).

B. Oes, gan nad yw’r dyledwr wedi rhoi unrhyw gydnabyddiaeth (consideration) yn gyfnewid am (in return for) y cytundeb i dderbyn llai na’r swm llawn.

C. Nac oes, gan fod y credydwr wedi ildio’i hawl i hawlio’r swm llawn.

D. Nac oes, gan fod y credydwr wedi cael budd cyfreithiol drwy dderbyn £4,000 yn hytrach na dim byd.

E. Nac oes, gan fod y credydwr wedi cael budd ymarferol drwy dderbyn £4,000 yn hytrach na dim byd.


B - Oes, gan nad yw’r dyledwr wedi rhoi unrhyw gydnabyddiaeth (consideration) yn gyfnewid am (in return for) y cytundeb i dderbyn llai na’r swm llawn.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?