SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 2

Roedd cwmni wedi creu arwystl ansefydlog (floating charge) dros ei holl asedau er budd cyflenwr masnachol (trade supplier), fel gwarannyn (security) ar gyfer y symiau a fyddai’n ddyledus o bryd i’w gilydd.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, ymrwymodd yr un cwmni i ddyledeb (debenture) gyda banc, gan greu arwystl ansefydlog dros holl asedau’r cwmni, fel gwarannyn ar gyfer benthyciad gan y banc.

Ni chafodd arwystl y cyflenwr masnachol ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Fodd bynnag, cyn i’r ddyledeb gael ei llofnodi, rhoddodd y cwmni wybod i’r banc bod y cyflenwr masnachol yn meddu ar arwystl ansefydlog dilys dros asedau’r cwmni yn barod. Cafodd y ddyledeb ei chwblhau’n briodol, ac fe’i cofrestrwyd ar unwaith yn Nhŷ’r Cwmnïau. Aeth y cwmni i ddwylo gweinyddwyr (go into administration) ddeg mis ar ôl ymrwymo i’r ddyledeb, gyda symiau dyledus a heb eu talu, i’r cyflenwr masnachol ac i’r banc.

Pa un o gredydwyr y cwmni sydd â’r hawl gyntaf (prior claim) i asedau’r cwmni?

A. Y banc, gan fod y ffaith fod y cyflenwr masnachol heb gofrestru ei arwystl yn golygu bod yr arwystl yn annilys (void) yn erbyn y cwmni.

B. Y cyflenwr masnachol, gan fod y banc wedi cael hysbysiad penodol am fodolaeth arwystl y cyflenwr masnachol.

C. Y banc, gan fod y ffaith fod y cyflenwr masnachol heb gofrestru ei arwystl yn golygu bod yr arwystl yn annilys (void) yn erbyn y gweinyddwyr a’r banc.

D. Y cyflenwr masnachol, gan fod arwystl y banc wedi’i greu lai na 12 mis cyn i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

E. Y cyflenwr masnachol, gan mai dyddiad creu’r arwystl yw’r unig beth sy’n pennu blaenoriaeth arwystlon ansefydlog.


C - Y banc, gan fod y ffaith fod y cyflenwr masnachol heb gofrestru ei arwystl yn golygu bod yr arwystl yn annilys (void) yn erbyn y gweinyddwyr a’r banc.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?