SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 45

Mae menyw yn berchen ar gyfrannau (shares) mewn cwmni cyfyngedig preifat. Nid yw’r cyfrannau mewn ISA (Cyfrif Cynilo Unigol). Yn ystod blwyddyn dreth 2023/24 mae’r fenyw’n cael difidend o £5,000. Ei hunig ffynhonnell incwm arall yw ei chyflog. Ei hincwm trethadwy, gan gynnwys y difidend, yw £41,000.

Yn 2023/24, £12,570 yw’r lwfans personol, £12,571-£50,270 yw’r band treth cyfradd sylfaenol (basic tax rate), a lwfans difidendau yw £1,000.

Faint o Dreth Incwm, os o gwbl, ddylai’r fenyw ei thalu ar y difidend?

A. Dim, gan fod y difidend wedi cael ei dalu gan gwmni cyfyngedig preifat sy’n talu Treth Gorfforaeth (Corporation Tax) ar ei elw dosbarthadwy (distributable profits) ac mae hynny’n bodloni rhwymedigaeth (liability) y fenyw o safbwynt Treth Incwm.

B. Dim, gan nad yw ei hincwm trethadwy, gan gynnwys y difidend, yn uwch na’r trothwy uchaf ar gyfer treth ar y gyfradd sylfaenol.

C. Dylai hi dalu Treth Incwm ar gyfradd sylfaenol Treth Incwm ar y difidend cyfan gan fod hyn yn mynd y tu hwnt i’w lwfans difidendau blynyddol.

D. Dylai hi dalu Treth Incwm ar y gyfradd treth briodol ar gyfer difidendau ar y gyfran o’r difidend sy’n uwch na’i lwfans difidendau blynyddol.

E. Dylai hi dalu Treth Incwm ar gyfradd ychwanegol Treth Incwm ar y gyfran o’r difidend sy’n uwch na’i lwfans difidendau blynyddol.


D - Dylai hi dalu Treth Incwm ar y gyfradd treth briodol ar gyfer difidendau ar y gyfran o’r difidend sy’n uwch na’i lwfans difidendau blynyddol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?