SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 60

Roedd tri chyfreithiwr wedi sefydlu partneriaeth chwe mis yn ôl. Fe wnaethant rannu elw yn gyfartal a chynnal eu busnes o swyddfa a oedd yn eiddo i un o’r partneriaid yr oedd wedi ei brynu saith mis yn ôl. Mae’r partner a oedd yn berchen ar y swyddfa bellach wedi marw. Ar ddyddiad ei farwolaeth, roedd gwerth busnes y bartneriaeth yn £900,000 ac roedd gwerth y swyddfa yn £700,000.

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau i ba raddau mae Rhyddhad Ardrethi (Business Relief - BR) ar gael ar Dreth Etifeddiant mewn perthynas â buddiant y partner a fu farw ym musnes y bartneriaeth ac yn y swyddfa?

A. Bydd y buddiant ym musnes y bartneriaeth a’r swyddfa yn gymwys ar gyfer BR ar gyfradd o 100%.

B. Bydd y buddiant ym musnes y bartneriaeth yn gymwys ar gyfer BR ar gyfradd o 100% a bydd y swyddfa yn gymwys ar gyfer BR ar gyfradd o 50%.

C. Bydd y buddiant ym musnes y bartneriaeth yn gymwys ar gyfer BR ar gyfradd o 100% ac ni fydd y swyddfa yn gymwys ar gyfer BR.

D. Ni fydd y buddiant ym musnes y bartneriaeth yn gymwys ar gyfer BR a bydd y swyddfa yn gymwys ar gyfer BR ar gyfradd o 50%.

E. Ni fydd y buddiant ym musnes y bartneriaeth na’r swyddfa yn gymwys ar gyfer BR.


E - Ni fydd y buddiant ym musnes y bartneriaeth na’r swyddfa yn gymwys ar gyfer BR.

Atebodd 30% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE