SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 20

Mae hawlydd yn dwyn hawliad yn erbyn diffynnydd, ac yn ceisio iawndal (damages) am dorcontract (breach of contract). Mae’r hawlydd yn honni bod y partïon wedi cytuno ar lafar i newid y contract. Mae’r diffynnydd yn gwadu (deny) bod gan y partïon gytundeb o’r fath. Yr unig dystiolaeth ar y mater hwn, a fydd yn pennu canlyniad yr hawliad, yw tystiolaeth lafar yr hawlydd a’r diffynnydd, sy’n gwrthdaro â’i gilydd.

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau’r baich prawf (burden of proof), os o gwbl, y bydd y llys yn ei ddefnyddio wrth benderfynu ar y mater?

A. Mae’r baich ar y diffynnydd i wrthbrofi honiad yr hawlydd y tu hwnt i bob amheuaeth resymol (beyond reasonable doubt).

B. Mae’r baich ar y diffynnydd i wrthbrofi honiad yr hawlydd yn ôl pwysau tebygolrwydd (balance of probabilities).

C. Nid yw’r naill barti na’r llall yn ysgwyddo’r baich prawf a bydd y barnwr yn gorchymyn ail dreial os na all fod yn siŵr ynglŷn â thystiolaeth pa barti sy’n gywir.

D. Mae’r baich ar yr hawlydd i brofi’r honiad yn ôl pwysau tebygolrwydd (balance of probabilities).

E. Mae’r baich ar yr hawlydd i brofi’r honiad y tu hwnt i bob amheuaeth resymol (beyond reasonable doubt).


D - Mae’r baich ar yr hawlydd i brofi’r honiad yn ôl pwysau tebygolrwydd (balance of probabilities).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?