SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 73

Mae cyfreithiwr sydd wedi’i gyflogi gan gwmni yn gweithredu ar ran cleient wrth brynu eiddo preswyl newydd sbon am £350,000. Cafodd contractau eu cyfnewid ychydig fisoedd yn ôl, mae'r gwaith adeiladu wedi dod i ben ac mae'r dyddiad cwblhau wedi'i bennu ar gyfer yr wythnos nesaf.

Chwe wythnos yn ôl, cyflwynwyd adroddiad gweithgarwch amheus (SAR) yn gywir ar-lein i'r awdurdod priodol gan swyddog enwebedig y cwmni o ganlyniad i wybodaeth a gafwyd gan y cyfreithiwr bod y cleient yn ymwneud â gwyngalchu arian. Roedd y SAR yn cynnwys cais am ganiatâd i fwrw ymlaen â chwblhau pryniant yr eiddo.

Derbyniwyd hysbysiad gwrthod cydsyniad i gwblhau'r pryniant bum wythnos yn ôl. Ni fu gohebiaeth bellach gan yr awdurdod priodol nac unrhyw gais ganddo i'r llys ers hynny. Ni chymerwyd unrhyw gamau yn erbyn y cleient na'i asedau, ac nid yw'r cleient wedi cael gwybod ei fod yn destun ymchwiliad i wyngalchu arian.

A fydd y swyddog enwebedig yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 os yw'n rhoi cydsyniad i'r cyfreithiwr fwrw ymlaen â'r pryniant yr wythnos nesaf?

A. Bydd, oherwydd bod hysbysiad gwrthod cydsyniad wedi'i dderbyn.

B. Bydd, oherwydd nid yw'r hysbysiad gwrthod cydsyniad wedi'i wrthdroi (reversed) o fewn y 31 niwrnod canlynol.

C. Na fydd, oherwydd bod dros 31 niwrnod wedi bod ers cyflwyno'r SAR.

D. Na fydd, oherwydd nid yw'r cleient wedi cael gwybod ei fod yn destun ymchwiliad gwyngalchu arian ac nid yw unrhyw gamau wedi'u cymryd yn erbyn y cleient na'i asedau.

E. Na fydd, oherwydd bod dros 31 niwrnod wedi bod ers i'r hysbysiad gwrthod cydsyniad gael ei dderbyn.


E - Na fydd, oherwydd bod dros 31 niwrnod wedi bod ers i'r hysbysiad gwrthod cydsyniad gael ei dderbyn.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?