SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 74

Rhoddir llechen electronig newydd ('y Llechen') i fenyw yn anrheg pen-blwydd oddi wrth ei ffrind. Prynodd y ffrind y llechen gan fanwerthwr lleol ('y Manwerthwr'). Nid oedd y Manwerthwr yn ymwybodol bod y ffrind yn ei brynu'n anrheg i'r fenyw.

Wrth geisio defnyddio’r Llechen, mae'r fenyw yn darganfod nad yw'n gallu ei droi ymlaen am fod nam ar y botwm pŵer. Nid yw'r fenyw eisiau dweud wrth ei ffrind nad yw'r Llechen yn gweithio oherwydd ei fod yn anrheg pen-blwydd ac felly mae'n mynd â'r Llechen i siop drwsio leol.

Mae'r siop yn trwsio'r nam ar y Llechen am gost o £150, y mae'r fenyw yn ei thalu. Mae'r fenyw'n dymuno siwio'r Manwerthwr mewn esgeuluster i adennill y £150.

A all y fenyw adennill y gost drwsio o £150 mewn esgeuluster gan y Manwerthwr?

A. Na all, oherwydd bod y nam ar y Llechen yn golled anrhagweladwy.

B. Gall, oherwydd bod y Llechen yn ddiffygiol.

C. Gall, oherwydd bod y gost drwsio yn golled economaidd ganlyniadol (consequential).

D. Na all, oherwydd bod y gost drwsio yn golled economaidd pur.

E. Gall, oherwydd bod y Manwerthwr yn gwbl atebol (strictly liable) am y gost drwsio.


D - Na all, oherwydd bod y gost drwsio yn golled economaidd pur.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?