SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 32

Cafodd cyfreithiwr mewn cwmni o gyfreithwyr alwad ffôn gan reolwr gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig preifat sydd wedi’i gorffori yn y DU, sydd yn gleient newydd. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr eisiau gwybod pam bod cwmni’r cyfreithiwr yn gofyn am ddogfennau i wirio hunaniaeth cyfranddaliwr y cwmni. Mae cyfranddaliwr y cwmni yn byw ym Mrasil ac yn dal, ac yn berchen ar, holl gyfrannau y cwmni.

Pa un o’r ymatebion canlynol sy’n egluro orau y cyngor y dylai’r cyfreithiwr ei roi i’r rheolwr gyfarwyddwr?

A. Mae’n ddyletswydd ar y cyfreithiwr i wybod pwy yw cyfranddaliwr y cwmni ac i wirio ei hunaniaeth gan fod y cyfranddaliwr yn byw y tu allan i’r DU.

B. Mae’n ddyletswydd ar y cyfreithiwr i wybod pwy yw cyfranddaliwr y cwmni ac i wirio ei hunaniaeth gan fod y cyfranddaliwr yn byw ym Mrasil.

C. Mae’n ddyletswydd ar y cyfreithiwr i wybod pwy yw cyfranddaliwr y cwmni a gwirio ei hunaniaeth gan fod y cyfranddaliwr yn berchen ar fwy na 25% o’r cyfrannau.

D. Mae’n ddyletswydd ar y cyfreithiwr i wybod pwy yw cyfranddaliwr y cwmni ac i wirio ei hunaniaeth oherwydd strwythur y cwmni a’r ffordd y mae’r cyfrannau’n cael eu dal gan y cyfranddaliwr.

E. Mae’n ddyletswydd ar y cyfreithiwr i wybod pwy yw cyfranddaliwr y cwmni ac i wirio ei hunaniaeth gan mai dim ond un cyfranddaliwr sydd gan y cwmni.


C - Mae’n ddyletswydd ar y cyfreithiwr i wybod pwy yw cyfranddaliwr y cwmni a gwirio ei hunaniaeth gan fod y cyfranddaliwr yn berchen ar fwy na 25% o’r cyfrannau.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?