SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 21

Mae dyn yn defnyddio ei feic mynydd newydd sy’n eitem o’r radd flaenaf (state of the art). Mae gan y beic ffrâm fetel sydd wedi’i datblygu’n arbennig i wella perfformiad y beic dros dir garw. Ond, gan fod y metel yn rhai o’r sgriwiau wedi cyrydu (corrode), ac nad oedd modd rhagweld hyn, mae cyrn (handlebars) y beic yn torri’n ddau wrth i’r dyn ei ddefnyddio. Mae’r dyn yn torri ei ddau arddwrn.

Pa un o’r canlynol sy’n egluro’r sefyllfa orau o ran a yw’r dyn yn gallu adfer iawndal (damages) am ei anafiadau o dan Ddeddf Diogelu Defnyddwyr (Consumer Rights Act) 1987?

A. Mae e’n gallu gan fod y beic yn ddiffygiol.

B. Mae e’n gallu gan fod y ddyletswydd gofal wedi cael ei thorri.

C. Mae e’n gallu gan nad yw ei anafiadau’n rhy bellennig (remote).

D. Nid yw e’n gallu gan nad oedd modd rhagweld yr anafiadau.

E. Nid yw e’n gallu gan nad yw iawndal am anafiadau personol yn cael ei ddyfarnu o dan y Ddeddf Diogelu Defnyddwyr.


A - Mae e’n gallu gan fod y beic yn ddiffygiol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?