SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 54

Roedd menyw yn berchen ar siop anifeiliaid anwes yr oedd hi’n ei rhedeg fel unig fasnachwr (sole trader). Penderfynodd werthu’r siop anifeiliaid anwes a dod yn bartner mewn salon trin cŵn sydd wedi bod yn gweithredu ers nifer o flynyddoedd. Pan ymunodd â’r bartneriaeth, cymerodd fenthyciad o £10,000 ar gyfradd llog (interest rate) flynyddol o 10% i brynu ei chyfran hi o’r bartneriaeth. Nid yw hi wedi talu dim o’r benthyciad yn ôl hyd yma. Ym mlwyddyn dreth 2023/24, cyfran y fenyw o elw’r bartneriaeth oedd £38,000.

Cymerodd fwy o amser na’r disgwyl i’r fenyw ddod o hyd i brynwr i’r siop anifeiliaid anwes ond cwblhaodd y gwerthiant ar 6 Ebrill 2023 gan wneud elw o £10,000 ar y gwerthiant.

Yn 2023/24 y lwfans personol yw £12,570 a chyfradd sylfaenol y Dreth Incwm yw 20%. Y band treth cyfradd sylfaenol yw £0 - £37,700.

Beth yw atebolrwydd (liability) y fenyw o safbwynt treth Incwm yn y flwyddyn dreth 2023/24?

A. £4,886

B. £5,086

C. £7,086

D. £6,886

E. £5,286


A - £4,886


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?