SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 33

Trefnodd dyn i asiant eiddo werthu ei eiddo. Roedd dogfen ysgrifenedig yn cynnwys telerau’r cytundeb rhyngddynt. Roedd y cytundeb yn nodi y caiff comisiwn ei dalu i’r asiant eiddo wrth gwblhau’r gwerthiant, ar yr amod mai’r asiant eiddo sy’n cyflwyno’r prynwr.

Cwblhawyd gwerthiant yr eiddo, a chododd anghydfod ynghylch a oedd gwerthwr yr eiddo wedi cyflwyno’r prynwr, ai peidio. Daeth yr asiant eiddo ag achos yn erbyn y dyn, i dalu’r comisiwn yr honnwyd ei fod yn ddyledus o dan y cytundeb ysgrifenedig. Bu’r achos yn llwyddiannus yn y treial, a dyfarnwyd iawndal (damages) o £12,000 i’r asiant eiddo.

Pa orchymyn am gostau, os o gwbl, y gellid ei ddisgwyl o dan amgylchiadau’r achos hwn?

A. Dim gorchymyn am gostau gan fod yr hawliad wedi codi o gontract defnyddiwr o fewn ystyr Deddf Hawliau Defnyddwyr (Consumer Rights Act) 2015.

B. Gorchymyn o blaid yr asiant eiddo, wedi’i gyfyngu i ad-dalu ffioedd y llys a dalwyd gan mai hawliad bychan yw’r hawliad.

C. Dim gorchymyn am gostau gan mai hawliad bychan yw’r hawliad.

D. Gorchymyn o blaid yr asiant eiddo am gostau adenilladwy sefydlog (fixed recoverable costs) yn unig.

E. Gorchymyn o blaid yr asiant eiddo am gostau ar y sail safonol (standard basis), wedi eu hasesu’n ddiannod (summarily) ar ddiwedd y treial.


D - Gorchymyn o blaid yr asiant eiddo am gostau adenilladwy sefydlog (fixed recoverable costs) yn unig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?