SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 66

Nid yw menyw yn gwneud unrhyw warediadau (disposals) at ddiben Treth Enillion Cyfalaf (CGT) yn ystod blwyddyn dreth 2024/25. Fe wnaeth hi golledion o £2,000 at ddiben CGT yn ystod y flwyddyn dreth 2023/24.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o sefyllfa CGT y fenyw?

A. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 yn ogystal â'i hesemptiad blynyddol ar gyfer 2024/25 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i ddefnyddio'r rhain.

B. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w defnyddio a gall gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2024/25 tan 2025/26 yn unig.

C. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 tan 2025/26 yn unig a gall gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2024/25 ymlaen am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w ddefnyddio.

D. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 i'r flwyddyn dreth 2025/26 yn unig ac ni all gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol o gwbl yn 2024/25.

E. Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w defnyddio ac ni all gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2024/25 o gwbl.


E - Gall gario ymlaen ei cholledion o £2,000 am gyfnod amhenodol nes iddi gael cyfle i'w defnyddio ac ni all gario ymlaen ei hesemptiad blynyddol ar gyfer 2024/25 o gwbl. 


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?