SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 67

Mae menyw ('yr Hawlydd') yn cyfarwyddo cyfreithiwr i gyflwyno hawliad am iawndal (damages) yn erbyn cwmni o gynghorwyr ariannol ('y Diffynnydd') ar y sail ei fod wedi rhoi cyngor esgeulus iddi pan oedd hi'n gleient i'r cwmni. Mae gwerth yr hawliad yn fwy na £100,000.

Mae'r diffynnydd yn cyfarwyddo cyfreithiwr ac mae amddiffyniad yn cael ei ffeilio a'i gyflwyno. Ar yr un diwrnod ag y caiff yr amddiffyniad ei ffeilio a'i gyflwyno, mae cyfreithiwr y Diffynnydd yn gwneud cynnig Rhan 36 o £125,000 ('y Cynnig') ar ran ei chleient hi. Y cyfnod perthnasol ar gyfer derbyn y Cynnig yw 21 niwrnod.

Wythnos ar ôl i'r cyfnod perthnasol ddod i ben mae cyfreithiwr y Diffynnydd yn cwrdd mewn cynhadledd â'r Cwnsler (Counsel) i drafod yr achos. Bythefnos ar ôl i'r cyfnod perthnasol ddod i ben mae cyfreithiwr y Diffynnydd yn derbyn llythyr gan yr Hawlydd yn datgan nad oes ganddi gyfreithwyr sy'n gweithredu ar ei rhan mwyach. Mae ei llythyr hefyd yn cynnwys hysbysiad o dderbyn y Cynnig gyda chadarnhad bod ei hysbysiad o dderbyn hefyd wedi'i ffeilio gyda'r llys.

Pa un o'r datganiadau canlynol sy'n disgrifio'r canlyniadau mwyaf tebygol o safbwynt costau yn yr achos?

A. Bydd yr Hawlydd yn talu costau'r Diffynnydd yn yr achos ar y sail safonol.

B. Bydd yr Hawlydd yn talu costau'r Diffynnydd yn yr achos ar y sail indemniad.

C. Bydd y Diffynnydd yn talu costau'r Hawlydd ar y sail safonol hyd at ddiwedd y cyfnod perthnasol, ac wedi hynny bydd yr Hawlydd yn talu costau'r Diffynnydd ar y sail safonol.

D. Bydd y Diffynnydd yn talu costau'r Hawlydd yn yr achos ar y sail safonol.

E. Bydd y Diffynnydd yn talu costau'r Hawlydd ar y sail indemniad hyd at ddiwedd y cyfnod perthnasol, ac wedi hynny bydd yr Hawlydd yn talu costau'r Diffynnydd ar y sail indemniad.


C - Bydd y Diffynnydd yn talu costau'r Hawlydd ar y sail safonol hyd at ddiwedd y cyfnod perthnasol, ac wedi hynny bydd yr Hawlydd yn talu costau'r Diffynnydd ar y sail safonol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?