SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 29

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran cleient mewn perthynas â phrynu cwmni cyfyngedig preifat. Ddau ddiwrnod cyn cwblhau’r trafodiad mae’r cyfreithiwr yn amau y bydd ei gleient yn defnyddio’r trafodiad i wyngalchu arian (launder money). Mae’r cyfreithiwr yn rhoi gwybod am hyn i’r swyddog enwebedig (nominated offiicer) sydd wedyn yn anfon adroddiad am weithgarwch amheus i’r awdurdod perthnasol.

Pa gamau y dylai’r cyfreithiwr eu cymryd yn awr?

A. Bwrw ymlaen â’r trafodiad gan fod y cyfreithiwr wedi gwneud y datgeliad i’r swyddog enwebedig.

B. Bwrw ymlaen â’r trafodiad ond dim ond ar ôl cael awdurdod i wneud hynny gan y swyddog enwebedig.

C. Bwrw ymlaen â’r trafodiad ar ôl cyfnod o dri diwrnod gwaith os na ddaw ymateb gan yr awdurdod perthnasol.

D. Egluro wrth y cleient na all y cyfreithiwr weithredu gan fod adroddiad am weithgarwch amheus wedi cael ei anfon.

E. Egluro wrth y cleient bod adroddiad o weithgarwch amheus wedi cael ei anfon ac yna bwrw ymlaen â’r trafodiad.


B - Bwrw ymlaen â’r trafodiad ond dim ond ar ôl cael awdurdod i wneud hynny gan y swyddog enwebedig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?