SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 19

Mae dyn yn cyfarwyddo ei gyfreithiwr i weithredu ar ei ran wrth brynu holl gyfalaf cyfrannau a roddwyd (issued share capital) cwmni cyfyngedig preifat gan gwmni arall. Mae’r cyfreithiwr yn cynghori ynghylch prynu’r cyfrannau ac yn helpu i baratoi a negodi (negotiate) yr holl ddogfennau angenrheidiol.

Nid yw’r cyfreithiwr na’i gwmni wedi’u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i gyflawni ‘gweithgaredd a reoleiddir’ fel y’i diffinnir yn Neddf Marchnadoedd a Gwasanaethau Ariannol 2000 ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig.

A yw’r cyfreithiwr wedi torri’r gwaharddiad (prohibition) cyffredinol yn erbyn cyflawni gweithgaredd a reoleiddir?

A. Do, gan fod y cyfreithiwr wedi rhoi cyngor ar brynu cyfrannau mewn cwmni penodol ac nid oes eithriad (exclusion) nac esemptiad (exemption) yn berthnasol.

B. Do, gan fod y trafodiad yn cynnwys prynu holl gyfalaf cyfrannau’r cwmni, ac nid oes eithriad (exclusion) nac esemptiad (exemption) yn berthnasol.

C. Naddo, gan fod eithriad (exclusion) yn berthnasol i gwmnïau proffesiynol sy’n cael eu goruchwylio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr pan fyddant yn ymgymryd â gwaith corfforaethol.

D. Naddo, gan fod eithriad (exclusion) yn berthnasol os yw’r trafodiad yn ymwneud â phrynu unrhyw nifer o gyfrannau mewn cwmni cyfyngedig preifat.

E. Naddo, gan fod eithriad (exclusion) yn berthnasol os yw’r trafodiad yn cynnwys o leiaf 50% o’r cyfrannau pleidlais yn y cwmni.


E - Naddo, gan fod eithriad (exclusion) yn berthnasol os yw’r trafodiad yn cynnwys o leiaf 50% o’r cyfrannau pleidlais yn y cwmni.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?