SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 3

Cwmni yw’r hawlydd mewn achos am esgeuluster (negligence) yn erbyn diffynnydd sydd yn bractis cyfrifyddu. Mae’r hawlydd yn ceisio iawndal (damages) gan ei fod yn honni bod y diffynnydd wedi rhoi cyngor proffesiynol esgeulus iddo. Gorchmynnwyd datgeliad safonol (standard disclosure).

Mae llythyr dwy-dudalen a anfonodd cynghorydd ariannol at reolwr gyfarwyddwr yr hawlydd wedi ei gynnwys yn rhestr dogfennau’r hawlydd. Mae’r cynghorydd ariannol yn annibynnol o’r ddau barti yn yr ymgyfreitha (litigation). Cafwyd hyd i’r llythyr yn swyddfa rheolwr gyfarwyddwr yr hawlydd, ac mae’r unig gopi ym meddiant cyfreithiwr yr hawlydd. Mae’n amlwg mai’r unig reswm am ysgrifennu’r llythyr yw rhoi cyngor ynghylch drafftio’r llythyr cyn hawlio yn yr ymgyfreitha presennol.

Pe bai’r hawlydd am wrthod yr hawl i archwilio’r llythyr, ar ba sail y gallai wneud hynny?

A. Nid yw’r llythyr bellach dan reolaeth y parti sy’n ei ddatgelu.

B. Mae’r llythyr o dan fraint cyngor cyfreithiol (legal advice privilege).

C. Byddai’n anghymesur (disproportionate) â’r materion yn yr achos i ganiatáu archwilio’r llythyr.

D. Mae’r llythyr o dan fraint ymgyfreitha (litigation privilege).

E. Ysgrifennwyd y llythyr ar ôl i sail yr achos (cause of action) gael ei sefydlu (accrued).


D - Mae’r llythyr o dan fraint ymgyfreitha (litigation privilege).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?