SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 26

Mae cwmni wedi creu arwystl sefydlog (fixed charge) o blaid ei fanc dros beiriannau sy’n eiddo i’r cwmni ac sy’n cael eu defnyddio yn ffatri’r cwmni. Mae’r cwmni yn un solfent. Mae’r arwystl sefydlog wedi’i gofrestru’n briodol yn Nhŷ’r Cwmnïau. Bellach mae’r cwmni’n dymuno gwerthu rhai o’r peiriannau ac yn ceisio cyngor cyfreithiol ar sut i fwrw ymlaen.

Pa gyngor y dylid ei roi i’r cwmni ynglŷn â gwerthu’r peiriannau?

A. Mae’r cwmni’n gallu bwrw ymlaen i werthu’r peiriannau am nad yw’r arwystl wedi cael ei grisialu (crystallised) eto.

B. Dim ond os yw’n cael caniatâd y banc fel deiliad yr arwystl y gall y cwmni werthu’r peiriannau.

C. Dim ond os yw’r banc yn rhan o’r gwerthiant y gall y cwmni werthu’r peiriannau am fod gan y banc deitl cyfreithiol i’r peiriannau.

D. Dim ond os yw’n cael caniatâd ei gredydwyr ansicredig (unsecured) y gall y cwmni werthu’r peiriannau.

E. Mae’r cwmni’n gallu bwrw ymlaen i werthu’r peiriannau pan fydd wedi cofrestru’r gwerthiant yn Nhŷ’r Cwmnïau.


B - Dim ond os yw’n cael caniatâd y banc fel deiliad yr arwystl y gall y cwmni werthu’r peiriannau.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?