SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 53

Mae dyn yn ymweld â chyfreithiwr. Mae’r dyn yn hysbysu’r cyfreithiwr ei fod yn gyfarwyddwr cwmni (‘y Cwmni’) lle mae’n cael ei gyflogi hefyd. Mae’n egluro bod y Cwmni yn eiddo llwyr i gwmni o’r Unol Daleithiau (‘y Rhiant’), a bod holl gyfarwyddwyr eraill y Cwmni yn swyddogion y Rhiant ac yn byw yn UDA. Mae’r dyn yn byw yn Lloegr.

Mae’r dyn yn egluro bod y Rhiant wedi gofyn i’r Cwmni brynu eiddo penodol yn Llundain (‘yr Eiddo’) y bydd y Cwmni yn gweithredu ohono er mwyn ehangu ei fusnes presennol.

Mae’r dyn yn egluro ymhellach fod bwrdd cyfarwyddwyr y Cwmni (‘y Bwrdd’) wedi cyfarfod i ystyried cais y Rhiant ac mae wedi penderfynu bwrw ymlaen â phrynu’r Eiddo gan eu bod wedi penderfynu y byddai pryniant o’r fath yn hyrwyddo llwyddiant y Cwmni. Gofynnir i’r cyfreithiwr roi cyngor ar brynu’r Eiddo.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r eglurhad gorau o pwy yw cleient y cyfreithiwr?

A. Y Rhiant, gan fod y Cwmni o dan berchnogaeth lwyr iddo.

B. Y dyn, gan mai ef yw cyfarwyddwr y Cwmni sy’n byw yn Lloegr.

C. Y Cwmni, gan mai’r Cwmni fydd yn prynu’r Eiddo.

D. Y Rhiant, gan mai’r Rhiant sydd wedi gofyn i’r Cwmni brynu’r Eiddo.

E. Y Bwrdd, gan mai’r Bwrdd sydd wedi penderfynu bwrw ymlaen â phrynu’r Eiddo.


C - Y Cwmni, gan mai’r Cwmni fydd yn prynu’r Eiddo.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?