SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 6

Mae cyfarwyddwyr cwmni cyfyngedig preifat yn bwriadu gwerthu rhywfaint o dir sy’n eiddo i’r cwmni. Mae pob un o’r cyfarwyddwyr yn adnabod prynwr arfaethedig y tir, sef tad un o’r cyfarwyddwyr. Mae holl gyfarwyddwyr y cwmni hefyd yn gyfranddalwyr yn y cwmni.

Cafodd y tir ei brisio’n annibynnol yn ddiweddar ac mae’n werth £70,000, a chytunir mai hwn fydd y pris gwerthu.

Mae cyfrifon blynyddol diweddaraf y cwmni yn nodi elw net o £770,000 ac asedau net o £600,000. Mae’r cwmni wedi mabwysiadu Rheoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) (heb eu diwygio) fel ei erthyglau cymdeithasiad (articles of association).

A oes angen i’r cyfranddalwyr gymeradwyo’r bwriad i werthu’r tir?

A. Nac oes, gan fod y trafodiad yn dod o dan awdurdod cyffredinol y cyfarwyddwyr i reoli busnes y cwmni.

B. Nac oes, gan fod y trafodiad yn ymwneud â gwerthu a phrynu tir sy’n ased nad yw’n arian parod.

C. Nac oes, gan fod y trafodiad yn ymwneud â gwerthu a phrynu ased ar ei werth marchnad teg.

D. Oes, gan fod y trafodiad yn ymwneud â gwerthu a phrynu tir sy’n werth mwy na 10% o werth asedau’r cwmni.

E. Oes, gan fod holl gyfarwyddwyr y cwmni hefyd yn gyfranddalwyr yn y cwmni.


D - Oes, gan fod y trafodiad yn ymwneud â gwerthu a phrynu tir sy’n werth mwy na 10% o werth asedau’r cwmni.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?