SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 9

O dan delerau ei ewyllys, mae ystad cyfarwyddwr cwmni yn mynd i gael ei dal mewn ymddiriedolaeth (hold on trust) er mwyn talu’r incwm i’w ferch gydol ei hoes, ac wedi iddi farw bydd yn cael ei rhannu rhwng holl weithwyr presennol a blaenorol ei gwmni ef.

Mae’r ferch yn ymgynghori â chyfreithiwr i ofyn a yw’r rhodd yn ddilys. Mae’r ferch yn gwrthwynebu telerau ewyllys ei thad ac mae hi hefyd yn poeni nad yw’n ymarferol. Er bod gan y ferch restr gyflawn o weithwyr presennol a blaenorol y cwmni, nid yw’n siŵr bod modd dod o hyd i bob un ohonynt.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r cyngor gorau ynglŷn â’r rhodd?

A. Nid yw’r rhodd yn ddilys gan fod dosbarthiad y buddiolwyr (beneficiaries) yn anymarferol o safbwynt gweinyddol.

B. Nid yw’r rhodd yn ddilys gan nad oes modd i gwmni fod yn fuddiolwr.

C. Mae’r rhodd yn ddilys gan fod y cwmni’n dal i fodoli.

D. Mae’r rhodd yn ddilys gan fod nifer fawr o weithwyr y cwmni yn gallu elwa ohoni.

E. Mae’r rhodd yn ddilys gan fod cofnod cyflawn ar gael o weithwyr presennol a blaenorol y cwmni.


E - Mae’r rhodd yn ddilys gan fod cofnod cyflawn ar gael o weithwyr presennol a blaenorol y cwmni.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?