SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 14

Mae dyn sy’n oedolyn wedi cael ei gyhuddo (charged) o ymosodiad sy’n achosi gwir niwed corfforol (actual bodily harm) i’w gariad y mae ganddo blentyn gyda hi. Mae wedi pledio’n ddieuog ac mae’r achos yn cael ei ohirio ar gyfer treial.

Mae gan y dyn amod mechnïaeth (bail) i beidio â chysylltu â’i gariad. Mae’r heddlu’n cael adroddiad gan fam ei gariad i ddweud bod y dyn yn fflat ei gariad. Mae’r heddlu’n mynd i’r fflat ac yn arestio’r dyn ar amheuaeth o dorri amod ei fechnïaeth.

Mae’r dyn yn cyfaddef ei fod wedi ymweld â’i gariad yn ei fflat hi. Mae e’n egluro bod ei gariad wedi ei ffonio ac wedi gofyn iddo ymweld gan fod eu plentyn yn sâl. Mae ei gariad wedi cadarnhau bod esboniad y dyn yn gywir.

Mae’r heddlu’n honni bod y dyn wedi torri amod ei fechnïaeth.

Pa un o’r datganiadau canlynol yw’r disgrifiad gorau o’r sefyllfa o ran yr honiad ei fod wedi torri amod ei fechnïaeth?

A. Nid yw’r dyn wedi torri amod ei fechnïaeth gan mai ei gariad a wnaeth y cyswllt cyntaf. Ni fydd y dyn yn wynebu unrhyw ganlyniadau yn sgil ei ymweliad â fflat ei gariad.

B. Nid yw’r dyn wedi torri amod ei fechnïaeth gan fod ganddo reswm da i fod mewn cysylltiad â’i gariad. Ni fydd y dyn yn wynebu unrhyw ganlyniadau yn sgil ei ymweliad â fflat ei gariad.

C. Mae’r dyn wedi torri amod ei fechnïaeth. Gellir ei gyhuddo o drosedd o dorri amod mechnïaeth.

D. Mae’r dyn wedi torri amod ei fechnïaeth. Bydd yn gorfod mynd gerbron y llys er mwyn i’w fechnïaeth gael ei hailystyried.

E. Mae’r dyn wedi torri amod ei fechnïaeth. Bydd yn cael ei gadw ar remánd yn y ddalfa nes bydd ei achos yn mynd i dreial.


D - Mae’r dyn wedi torri amod ei fechnïaeth. Bydd yn gorfod mynd gerbron y llys er mwyn i’w fechnïaeth gael ei hailystyried.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?