SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 22

Bu farw dyn ar 4 Mai 2023. Gadawodd ei ystad gyfan i’w nai (nephew). Roedd yn ddyn di-briod ac nid oedd wedi gwneud unrhyw roddion oes (lifetime gifts). Roedd ei ystad yn cynnwys tŷ heb forgais gwerth £175,000 yr oedd wedi byw ynddo am fwy na 20 mlynedd, a chyfrifon banc a chymdeithas adeiladu gyda balansau gwerth £550,000. Roedd hefyd yn berchen ar dŷ gwerth £170,000 heb forgais a etifeddodd ar ôl ei fodryb ac sydd wedi cael ei rentu i denantiaid yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Roedd cyfanswm dyledion a chostau angladd y dyn yn £9,000.

Ym mlwyddyn dreth 2023/24 y band dim treth (nil rate) yw £325,000 a’r band dim treth ar gyfer prif breswylfa yw £175,000.

Faint o Dreth Etifeddiant fydd yn daladwy ar ystad y dyn?

A. £354,400

B. £224,400

C. £154,400

D. £152,000

E. £84,400


B - £224,400


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?