SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 65

Mae tri ffrind yn berchen ar eiddo rhydd-ddaliadol (freehold) cofrestredig gyda’i gilydd fel tenantiaid cydradd (tenants in common) mewn cyfrannau cyfartal (equal shares). Mae’r eiddo yn ddarostyngedig i gyfamodau cyfyngiadol (restrictive covenants).

Mae un o’r ffrindiau wedi marw. Yn ddiweddar mae ysgutorion (executors) ei ystad wedi cael grant profiant (grant of probate).

Mae’r eiddo wrthi’n cael ei werthu i brynwr. Bydd hi’n dal yr eiddo mewn ymddiriedolaeth (hold on trust) iddi hi a’i mab sy’n oedolyn.

Mae’r contract ar gyfer y gwerthiant wedi’i gyfnewid. Mae hyn yn ymgorffori’r Amodau Gwerthu Safonol (Pumed Argraffiad – Diwygiad 2018) heb unrhyw ddiwygiadau perthnasol.

Mae’r trosglwyddiad wrthi’n cael ei ddrafftio yn barod i’w gwblhau.

Pwy, os unrhyw un, sy’n gorfod gweithredu’r trosglwyddiad, ar wahân i’r ddau ffrind sy’n dal i fyw?

A. Neb.

B. Yr ysgutorion yn unig.

C. Y prynwr yn unig.

D. Yr ysgutorion a’r prynwr yn unig.

E. Yr ysgutorion, y prynwr a’r mab sy’n oedolyn.


C - Y prynwr yn unig.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?