SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 56

Mae menyw yn prynu eiddo rhydd-ddaliadol (freehold). Dewisodd hi’r eiddo gan ei fod yn cynnwys garej fawr ar wahân a fyddai’n ddelfrydol ar gyfer storio ei chasgliad o bum car o dras (vintage).

Cafodd contractau sy’n ymgorffori’r Amodau Gwerthu Safonol (Pumed Argraffiad - Diwygiad 2018) (SCS), heb eu diwygio, eu cyfnewid yr wythnos diwethaf. Mae’r fenyw wedi darganfod bod tân wedi bod yn yr eiddo neithiwr. Er na fu effaith ar y tŷ, mae’r garej wedi ei dinistrio. Nid yw’r fenyw’n siŵr ei bod hi am fwrw ymlaen â phrynu’r eiddo gan y bydd hi’n cymryd chwe mis i ailadeiladu’r garej. Mae hi’n poeni am unrhyw gostau ychwanegol y gallai hyn eu golygu ac nid yw’n gwybod ble y bydd ei cheir yn cael eu storio yn y cyfamser.

Mae’r fenyw yn gofyn i’w chyfreithiwr am gyngor.

Beth ddylai’r cyfreithiwr ei gynghori i’r fenyw?

A. Mae hi wedi ymrwymo’n gytundebol i gwblhau’r pryniant. Ni fydd unrhyw ostyngiad yn y pris prynu gan fod y risg yn cael ei throsglwyddo iddi hi wrth gyfnewid.

B. Ni ellir ei gorfodi hi i gwblhau’r pryniant gan fod rhan bwysig o destun y contract wedi’i dinistrio.

C. Mae hi wedi ymrwymo’n gytundebol i gwblhau’r pryniant. Roedd yr SCS yn mynnu bod y fenyw yn prynu polisi yswiriant a rhaid iddi ddefnyddio unrhyw enillion i adfer y garej.

D. Mae hi wedi ymrwymo’n gytundebol i gwblhau’r pryniant. Mae’r risg yn parhau gyda’r gwerthwr sy’n gorfod adfer y garej er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract.

E. Mae hi’n gallu penderfynu a fydd hi’n bwrw ymlaen ai peidio. Os bydd hi’n bwrw ymlaen, mae hi’n gallu gorfodi’r gwerthwr i adfer y garej i’rsafon yr oedd ar ddyddiad y contract.


A - Mae hi wedi ymrwymo’n gytundebol i gwblhau’r pryniant. Ni fydd unrhyw ostyngiad yn y pris prynu gan fod y risg yn cael ei throsglwyddo iddi hi wrth gyfnewid.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?