SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 3

Bu farw dyn gan adael ewyllys a oedd yn nodi ei fod yn gadael ei ystad gyfan i dri ymddiriedolwr i’w dal mewn ymddiriedolaeth (hold on trust) ar gyfer pedwar plentyn ei ffrind gorau. Bydd y plant yn etifeddu pan fyddant yn 18 oed. Mae dau o’r plant wedi troi’n 18 oed erbyn hyn ac wedi cael eu cyfran nhw o’r gronfa ymddiriedolaeth (trust fund). Mae’r ddau blentyn arall yn dal i fod o dan 18 oed. Mae’r gronfa ymddiriedolaeth yn cynnwys portffolio o gyfrannau. Bu farw un o’r ymddiriedolwyr yn ddiweddar.

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau p’un a oes angen penodi ymddiriedolwr arall?

A. Rhaid penodi ymddiriedolwr arall gan fod rhai o’r buddiolwyr (beneficiaries) yn dal i fod dan 18 oed.

B. Rhaid penodi ymddiriedolwr arall gan mai tri ymddiriedolwr gafodd eu penodi’n wreiddiol a dim ond dau ymddiriedolwr sy’n weddill.

C. Does dim angen penodi ymddiriedolwr arall gan fod yr ymddiriedolaeth wedi dod i rym ar ôl marwolaeth y dyn ac nid tra bu’n fyw.

D. Does dim angen penodi ymddiriedolwr arall gan nad oes tir yn rhan o fuddsoddiadau’r ymddiriedolaeth.

E. Does dim angen penodi ymddiriedolwr arall gan fod dau ymddiriedolwr yn weddill.


E - Does dim angen penodi ymddiriedolwr arall gan fod dau ymddiriedolwr yn weddill.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?