SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 16

Mae dyn wedi’i gyhuddo o ladrad. Ni chafodd gynrychiolaeth yn yr orsaf heddlu gan iddo wrthod cyngor cyfreithiol. Cytunodd y dyn i gymryd rhan mewn gweithdrefn adnabod (identification procedure) ar fideo, a chafodd ei ddewis gan un o’r tystion i’r drosedd.

Mae gan y dyn graith amlwg o dan ei lygad dde, a nodwyd gan lygad-dyst yn ei ddatganiad tyst cychwynnol. Nid oedd swyddog y fideo adnabod wedi gwneud unrhyw ymdrech i guddio’r graith ar wyneb y dyn pan roddodd ei lun ymysg y casgliad o luniau yn y weithdrefn adnabod ar fideo.

Mae cyfreithiwr bellach wedi cael ei gyfarwyddo i gynrychioli’r dyn yn ei dreial yn Llys y Goron, lle bydd y dyn yn pledio’n ddieuog. Fel rhan o waith paratoi’r cyfreithiwr ar gyfer y treial, mae wedi bwrw golwg dros y lluniau a ddefnyddiwyd ar gyfer y weithdrefn adnabod ar fideo ac wedi nodi mai dim ond dau o’r wyth llun arall sy’n dangos dynion tebyg â chraith amlwg o dan y llygad dde.

O ganlyniad, mae’r cyfreithiwr o’r farn bod modd profi bod Cod D o PACE 1984 (‘Cod D’) wedi cael ei dorri.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n nodi orau p’un a fydd tystiolaeth o’r weithdrefn adnabod ar fideo yn cael ei derbyn fel tystiolaeth yn nhreial y dyn?

A. Gall torri Cod D arwain at lys yn penderfynu gwahardd y dystiolaeth pe bai defnyddio’r dystiolaeth honno’n golygu camddefnyddio’r broses.

B. Bydd torri Cod D yn gorfodi’r llys i wahardd y dystiolaeth adnabod oherwydd ei heffaith ragfarnus (prejudicial).

C. Gall torri Cod D arwain at lys yn penderfynu y dylid gwahardd y dystiolaeth pe bai defnyddio’r dystiolaeth honno’n cael effaith andwyol (adverse effect) ar degwch yr achos.

D. Ni fydd torri Cod D yn gorfodi’r llys i wahardd y dystiolaeth gan na fyddai defnyddio’r dystiolaeth honno’n cael effaith andwyol (adverse effect) ar degwch yr achos.

E. Bydd torri Cod D yn gorfodi’r llys i ddod i’r casgliad y dylid eithrio (exclude) y dystiolaeth a gorchymyn bod yn rhaid i’r heddlu ddatrys y camgymeriad hwn drwy gynnal gweithdrefn adnabod arall ar fideo yn unol â Chod D.


C - Gall torri Cod D arwain at lys yn penderfynu y dylid gwahardd y dystiolaeth pe bai defnyddio’r dystiolaeth honno’n cael effaith andwyol (adverse effect) ar degwch yr achos.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?