SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 47

Roedd menyw yn meddiannu (occupy) siop ar les sy’n ddwy flynedd o hyd. Ar ddiwedd y cyfnod, adnewyddwyd y les am ddwy flynedd arall. Mae’r fenyw yn parhau i feddiannu’r siop ar y les newydd. Gwnaed y les newydd drwy weithred (by deed) ac nid oedd ei darpariaethau’n cyfeirio at a.62 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.

Yng nghefn y siop, mae storfa allanol, sy’n eiddo i’r landlord. Er nad yw wedi’i gynnwys yn y naill les na’r llall, mae’r fenyw bob amser wedi ei defnyddio i gadw stoc. Ar ddechrau’r les wreiddiol, dywedodd y landlord ei fod yn hapus i’r fenyw wneud hyn, cyn belled â’i bod yn cadw’r storfa’n daclus, gan ei fod yntau hefyd yn ei defnyddio ar gyfer storio.

Ddoe, datgelodd y landlord ei gynllun i ddymchwel y storfa. Mae’r fenyw eisiau atal hyn rhag digwydd trwy sefydlu bod ganddi hawl i ddefnyddio’r storfa.

A oes gan y fenyw hawddfraint orfodadwy (enforeceable easement) i ddefnyddio’r storfa?

A. Oes, gan fod ei thrwydded i ddefnyddio’r storfa wedi’i throi’n hawddfraint yn y les newydd.

B. Oes, gan fod y storfa’n angenrheidiol i’w busnes.

C. Nac oes, gan mai trwydded yn unig oedd y cytundeb i ganiatáu iddi gadw stoc yn y storfa.

D. Nac oes, gan na chofnodwyd yn ysgrifenedig y cytundeb i ganiatáu iddi gadw stoc yn y storfa.

E. Nac oes, gan ei bod hi’n rhannu’r defnydd o’r storfa gyda’r landlord.


A - Oes, gan fod ei thrwydded i ddefnyddio’r storfa wedi’i throi’n hawddfraint yn y les newydd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?