SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 61

Mae dyn yn ymddiriedolwr (trustee) ar gyfer cronfa o £500,000. Yn groes i’r ymddiriedolaeth, mae’n trosglwyddo £200,000 o arian yr ymddiriedolaeth i’w bartner i’w galluogi hi i brynu tŷ. Mae’r dyn yn gwneud hyn gan ei fod eisiau creu argraff arni.

Mae partner y dyn yn gwybod nad yw’r dyn yn ddigon cyfoethog i allu fforddio trosglwyddo £200,000 iddi. Mae hi’n gwybod bod ganddo nifer o gredydwyr sy’n dod i gyfanswm o fwy na £200,000. Roedd y dyn wedi dweud wrthi ar sawl achlysur blaenorol ei fod yn ymddiriedolwr ac y byddai’n barod i gymryd arian yn anghyfreithlon gan yr ymddiriedolaeth i’w ddefnyddio at ei ddibenion ei hun.

Ni ofynnodd partner y dyn ynglŷn â ffynhonnell y £200,000, gan ei bod hi’n teimlo trueni dros y dyn ac nid oedd am frifo ei deimladau. Ar ben hyn, roedd hi’n awyddus i gael yr arian i’w ddefnyddio at ei dibenion ei hun. Yn lle prynu tŷ, gwariodd yr holl arian ar bartïon a gwyliau drud.

Erbyn hyn mae’r dyn wedi diflannu, yn dal mewn dyled i’w gredydwyr. Mae buddiolwyr (beneficiaries) yr ymddiriedolaeth bellach am wneud hawliad personol o £200,000 yn erbyn y partner.

A yw hawliad personol yn erbyn y partner yn debygol o lwyddo?

A. Ydy, gan ei bod hi wedi ymddwyn yn anonest wrth gynorthwyo’r dyn i dorri ei ymddiriedolaeth.

B. Ydy, gan fod yr wybodaeth a oedd ganddi yn ei gwneud hi’n amheus ond penderfynodd beidio â holi am yr arian.

C. Nac ydy, gan iddi ddefnyddio’r arian at ddibenion gwahanol i’r diben yr oedd y dyn yn ei fwriadu.

D. Nac ydy, gan nad oedd ganddi wybodaeth wirioneddol bod y dyn yn torri ymddiriedolaeth.

E. Nac ydy, gan ei bod hi wedi gwastraffu’r arian a roddodd y dyn iddi.


B - Ydy, gan fod yr wybodaeth a oedd ganddi yn ei gwneud hi’n amheus ond penderfynodd beidio â holi am yr arian.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?