SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 50

Rhoddwyd les busnes dyddiedig 15 Gorffennaf 1989 i gwmni (‘y Tenant’). Dechreuodd ar 24 Mehefin 1989 am gyfnod o 50 mlynedd.

Mae’r Tenant wrthi’n aseinio gweddill cyfnod y les i gwmni arall (‘yr Aseinai’ (assignee)).

Mae’r les yn darparu mai dim ond gyda chydsyniad (consent) y landlord y gellir aseinio’r les (ni ddylid gohirio’r cysyniad yn afresymol). Mae’r Tenant wedi gwneud cais i’r landlord presennol (‘y Landlord’) am gydsyniad i aseinio’r les ac mae’r Landlord wedi nodi ei fod yn cydsynio mewn egwyddor yn amodol ar gwblhau trwydded i aseinio.

Mae cyfreithiwr y Landlord yn drafftio’r drwydded i aseinio. Mae hi’n drafftio’r cyfamod (covenant) i lywodraethu atebolrwydd (liability) yn y dyfodol o dan unrhyw gyfamodau’r tenant yn y les.

Pa un o’r cyfamodau canlynol y dylai cyfreithiwr y Landlord ei gynnwys yn y drwydded ddrafft i aseinio?

A. Mae’r Tenant yn creu cyfamod â’r Landlord i ddarparu cytundeb gwarant awdurdodedig i’r Landlord (ar ffurf y cytunir arni) ar yr aseiniad.

B. Mae’r Tenant yn cyfamodi â’r Landlord y bydd yr Aseinai yn cyflawni’r cyfamodau yn y les drwy gydol gweddill cyfnod y les.

C. Mae’r Tenant yn cyfamodi â’r Landlord y bydd yr Aseinai’n cyflawni’r cyfamodau yn y les tan y tro nesaf y caiff y les ei aseinio’n ddilys gyda chydsyniad y Landlord.

D. Mae’r Aseinai’n cyfamodi â’r Landlord i gyflawni’r cyfamodau yn y les drwy gydol gweddill cyfnod y les.

E. Mae’r Aseinai’n cyfamodi â’r Landlord i gyflawni ei gyfamodau yn y les tan y tro nesaf y caiff y les ei aseinio’n ddilys gyda chydsyniad y Landlord.


D - Mae’r Aseinai’n cyfamodi â’r Landlord i gyflawni’r cyfamodau yn y les drwy gydol gweddill cyfnod y les.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?