SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 37

Mae rhydd-ddeiliad (freeholder) (‘y Landlord’) wedi rhoi les fasnachol i denant ar ei eiddo.

Mae’r les yn nodi mai dim ond at ddiben manwerthu y gellir defnyddio’r eiddo.

Siop lyfrau yw’r tenant ac mae’n gofyn am gydsyniad (consent) y Landlord i aseinio’r les i archfarchnad. Mae’r siop lyfrau yn fasnachwr annibynnol sy’n ei chael hi’n anodd talu’r rhent. Mae’r archfarchnad yn cael ei rhedeg gan gadwyn genedlaethol sy’n broffidiol iawn.

Mae’r Landlord yn dymuno gwrthod cydsyniad ar gyfer yr aseiniad gan ei fod yn rhedeg archfarchnad arall gyferbyn â’r eiddo ac mae’n poeni y bydd yr aseinai (assignee) yn dwyn busnes oddi wrth ei fusnes ei hun.

Dyma eiriad perthnasol y cyfamod trosglwyddiad (alienation covenant) yn y les:

“Ni fydd y Tenant yn aseinio tanosodiad (underlet) na phridio (charge) yr Eiddo heb gael cydsyniad ysgrifenedig y Landlord ymlaen llaw.”

A yw’n gyfreithlon i’r Landlord wrthod rhoi cydsyniad ar gyfer yr aseiniad ar sail busnes yr aseinai?

A. Ydy, gan nad yw archfarchnad yn gymwys fel diben manwerthu.

B. Ydy, gan nad oes yn rhaid i’r Landlord weithredu’n rhesymol wrth wrthod cydsyniad.

C. Ydy, gan fod cystadleuaeth gan yr aseinai â busnes y Landlord yn sail dros wrthod cydsyniad yn rhesymol.

D. Nac ydy, oherwydd nid yw cystadleuaeth gan yr aseinai â busnes y Landlord yn sail dros wrthod cydsyniad yn rhesymol.

E. Nac ydy, gan fod yr archfarchnad mewn sefyllfa ariannol well na’r siop lyfrau ac ni ellir gwrthod cydsyniad os yw’r aseinai yn darparu cyfamod cryfach.


C - Ydy, gan fod cystadleuaeth gan yr aseinai â busnes y Landlord yn sail dros wrthod cydsyniad yn rhesymol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?