SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 23

Roedd dyn wedi gwasgu glud cryf iawn (superglue) i mewn i yriant caled (hard drive) cyfrifiadur ei gydweithiwr. Bwriad y dyn oedd chwarae jôc drwy stopio’r cyfrifiadur rhag gweithio dros dro.

Roedd yn rhagweld y gallai ei weithredoedd achosi difrod i’r cyfrifiadur a’i bod hi’n afresymol iddo gymryd y risg hon, dan yr amgylchiadau yr oedd e’n ymwybodol ohonynt.

Nid oedd wedi rhagweld bod difrod bron yn gwbl sicr o ddigwydd o ganlyniad i’w weithredoedd. Mewn gwirionedd cafodd y cyfrifiadur ei ddifrodi i’r graddau lle nad oedd modd ei drwsio ac fe ddylai’r dyn fod wedi rhagweld bod hynny bron yn gwbl sicr. Roedd ei weithredoedd yn afresymol.

A yw’r dyn yn euog o ddifrod troseddol?

A. Nac ydy, gan nad oedd wedi bwriadu achosi’r difrod.

B. Nac ydy, gan nad oedd wedi rhagweld bod y difrod bron yn gwbl sicr o ddigwydd o ganlyniad i’w weithredoedd.

C. Nac ydy, gan fod y dyn ddim ond yn esgeulus (negligent) o safbwynt y difrod.

D. Ydy, gan ei fod wedi rhagweld y risg o ddifrod ac roedd hi’n afresymol iddo gymryd y risg, dan yr amgylchiadau yr oedd e’n ymwybodol ohonynt.

E. Ydy, gan y dylai fod wedi rhagweld bod difrod bron yn gwbl sicr o ddigwydd o ganlyniad i’w weithredoedd a bod ei weithredoedd yn afresymol.


D - Ydy, gan ei fod wedi rhagweld y risg o ddifrod ac roedd hi’n afresymol iddo gymryd y risg, dan yr amgylchiadau yr oedd e’n ymwybodol ohonynt.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?