SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 42

Roedd menyw yn teithio ar drên yn hwyr gyda’r nos pan ddaeth dyn tuag ati gyda chyllell fawr yn ei law. Rhedodd y fenyw i ffwrdd a chwympo/syrthio, gan anafu ei phen-glin. Doedd y dyn ddim wedi bwriadu achosi anaf i’r fenyw ac nid oedd wedi sylweddoli bod ei weithredoedd yn creu risg o anaf. Er hynny, roedd y dyn yn sylweddoli bod ei weithredoedd yn creu risg o godi ofn ar y fenyw y byddai hithau’n dioddef grym anghyfreithlon uniongyrchol (immediate unlawful force).

Ydy’r dyn yn euog o ymosodiad sy’n achosi gwir niwed corfforol (actual bodily harm)?

A. Nac ydy, gan nad oedd wedi sylweddoli bod ei weithredoedd yn creu risg o anaf.

B. Nac ydy, gan nad oedd yn bwriadu achosi anaf.

C. Nac ydy, gan nad oedd anaf yn ganlyniad bron yn gwbl sicr i’w weithredoedd.

D. Ydy, gan ei fod wedi sylweddoli bod ei weithredoedd yn creu risg o godi ofn ar y fenyw y byddai hithau’n dioddef grym anghyfreithlon uniongyrchol, ac achoswyd anaf.

E. Ydy, gan y byddai person rhesymol wedi sylweddoli bod risg o anaf, ac achoswyd anaf.


D - Ydy, gan ei fod wedi sylweddoli bod ei weithredoedd yn creu risg o godi ofn ar y fenyw y byddai hithau’n dioddef grym anghyfreithlon uniongyrchol, ac achoswyd anaf.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?