SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 17

Mae dyn yn ymosod ar ddioddefwr mewn clwb nos, gan daro pen y dioddefwr yn dreisgar am yn ôl yn erbyn wal gan fwriadu achosi niwed corfforol difrifol iawn i’r dioddefwr. Mae’r dioddefwr wedi cael anaf difrifol ac mae’n mynd at y dyn sy’n gweithio ar ddrws y clwb nos i ofyn am help. Mae’r dyn yn credu bod y dioddefwr wedi meddwi ac yn ei thaflu hi allan o’r adeilad.

Yn fuan wedyn caiff y dioddefwr ei darganfod yn gorwedd ar y palmant a chaiff ei chludo i’r ysbyty. Mae ei chyflwr yn ddifrifol iawn oherwydd niwed enfawr i’r ymennydd, a ddigwyddodd oherwydd gweithredoedd y dyn ynghyd â pheth ddirywiad yn ei chyflwr tra’r oedd yn gorwedd ar y palmant. Mae hi’n cael ei rhoi ar beiriant cynnal bywyd sy’n cael ei ddiffodd pan ddaw’n amlwg ei bod wedi dioddef marwolaeth bôn yr ymennydd (brain stem death).

Mae’r dyn yn cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Pa ddatganiad sy’n egluro orau beth yw atebolrwydd (liability) posibl y dyn am lofruddiaeth?

A. Ni ellir ei gael yn euog o lofruddiaeth gan fod gweithredoedd y dyn ar y drws wedi cyfrannu at farwolaeth y dioddefwr.

B. Ni ellir ei gael yn euog o lofruddiaeth gan nad oedd marwolaeth yn ganlyniad anochel (inevitable) i’w weithredoedd.

C. Ni ellir ei gael yn euog o lofruddiaeth gan fod marwolaeth y dioddefwr yn ganlyniad i ddiffodd y peiriant cynnal bywyd.

D. Gellir ei gael yn euog o lofruddiaeth gan ei fod yn gyd-droseddwr (accomplice) i weithredoedd y dyn ar y drws a arweiniodd at farwolaeth y dioddefwr.

E. Gellir ei gael yn euog o lofruddiaeth gan fod ei weithredoedd ef yn rheswm sylweddol a gweithredol am farwolaeth y dioddefwr.


E - Gellir ei gael yn euog o lofruddiaeth gan fod ei weithredoedd ef yn rheswm sylweddol a gweithredol am farwolaeth y dioddefwr.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?