SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 57

Mae cwmni o gyfreithwyr yn gweithredu ar ran ysgutorion (executors) ystad dyn a fu farw. Mae newydd gael y grant profiant (grant of probate). Wrth wneud cais am y grant profiant, talodd y cwmni’r ffi berthnasol i’r gwasanaeth profiant, sef £273, o’i gyfrif banc busnes. Mae’r cwmni’n cael £5,225 gan fanc y dyn a fu farw, sef y balans a oedd gan y dyn a fu farw wrth gau ei gyfrif, ac mae’r cwmni’n talu’r swm hwnnw i mewn i gyfrif banc cyffredinol i gleientiaid y cwmni.

Mae’r cwmni wedi cael anfoneb am £100 (dim TAW yn daladwy), ond nid yw wedi ei thalu eto. Mae’r anfoneb wedi’i chyfeirio at y cwmni gan brisiwr lleol a ddarparodd brisiad profiant (probate valuation) ar ddodrefn y dyn a fu farw.

Mae’r cwmni’n cyflwyno bil i’r ysgutorion fel a ganlyn:

Costau proffesiynol £1,000
TAW  £200
Alldaliad (disbursement) wedi ei dalu (ffi profiant) £273
Alldaliad heb ei dalu (ffi prisio) £100
Cyfanswm £1,573

Beth yw’r uchafswm y gall y cwmni ei drosglwyddo i gyfrif banc busnes y cwmni?

A. £1,000

B. £1,273

C. £1,200

D. £1,300

E. £1,573


E - £1,573


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?