SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 46

Mae dyn yn bwriadu creu ymddiriedolaeth er budd ei ferch yn ystod ei bywyd hi ond yn y pen draw mae ef am i’r gronfa ymddiriedolaeth (trust fund) drosglwyddo i’w ŵyr (grandson).

Mae’r dyn yn trosglwyddo’r gronfa ymddiriedolaeth i ymddiriedolwyr, i’w dal mewn ymddiriedolaeth (hold on trust) i’w ferch fel y tenant am oes (life tenant) a’i ŵyr fel y gweddilliadwr (remainderman), ar yr amod bod yr ŵyr yn cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.

Ar ôl i’r ymddiriedolaeth gael ei chreu, mae’r ferch a’r ŵyr mewn damwain car. Mae’r ŵyr yn marw yn lleoliad y ddamwain ac mae’r ferch yn marw yn yr ysbyty yn fuan wedi hynny. Roedd yr ŵyr yn ei ail flwyddyn o gwrs gradd yn y gyfraith yn Llundain.

Mae’r ymddiriedolwyr yn gofyn am gyngor ynghylch pwy sydd â hawl i’r gronfa ymddiriedolaeth.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio orau pwy sydd â hawl i’r gronfa ymddiriedolaeth?

A. Mae’r gronfa ymddiriedolaeth yn perthyn i ystad y ferch oherwydd iddi oroesi (survived) yr ŵyr.

B. Mae’r gronfa ymddiriedolaeth yn perthyn i ystad yr ŵyr gan mai bwriad y setlor oedd y dylai’r ŵyr ei chael hi wedi i’r ferch farw.

C. Mae’r gronfa ymddiriedolaeth yn perthyn i’r dyn gan nad oedd yr ŵyr wedi goroesi (survived) y ferch.

D. Bydd y gronfa ymddiriedolaeth yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng ystadau’r ferch a’r ŵyr.

E. Mae’r gronfa ymddiriedolaeth yn perthyn i’r dyn gan i’w ŵyr fethu â bodloni’r amod.


E - Mae’r gronfa ymddiriedolaeth yn perthyn i’r dyn gan i’w ŵyr fethu â bodloni’r amod.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?